Ar Hyd Y Nos

Holl amrantau'r sêr ddywedant
Ar hyd y nos
"Dyma'r ffordd i fro gogoniant,"
Ar hyd y nos

Golau arall yw tywyllwch
I arddangos gwir brydferthwch
Teulu'r nefoedd mewn tawelwch
Ar hyd y nos

O mor siriol, gwena'r seren
Ar hyd y nos
I oleuo'i chwaer ddaearen
Ar hyd y nos

Nos yw henaint pan ddaw cystudd
Ond i harddu dyn a'i hwyrddydd
Rhown ein golau gwan i'n gilydd
Ar hyd y nos



Credits
Writer(s): Chris Hazell
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link